Gwleidydd ac ymgyrchydd hawliau gwleidyddol yn Belarws yw Sviatlana Heorhiyeuna Tsikhanouskaya hefyd Svetlana Georgiyevna Tikhanovskaya (Belarwseg: Святла́на Гео́ргіеўна Ціхано́ўская, née Pilipchuk, Піліпчук; Wyddor Ladin Belarwsieg: Śviatłana Cichanoŭskaja; Rwsieg: Светла́на Гео́ргиевна Тихано́вская (Пилипчу́к)). Ganed 11 Medi 1982. Safodd ar gyfer Arlywyddiaeth Belarws yn yr etholiad yn 2020 yn dilyn carchariad ei gŵr gan lywodraeth Alexander Lukashenko. Hi oedd prif ffigwr plaid ei gŵr, 'Gwlad am Oes' (Страна для Жизни; Strana dlja Žizni). Yn ôl canlyniadau twyllodrus y Llywodraeth, daeth yn ail gyda 10.9% o’r pleidleisiau. Fodd bynnag, mae canlyniadau'r etholiadau yn amheus i raddau helaeth oherwydd twyll etholiadol a gadarnhawyd gan ganlyniadau'r pleidleisiau a ddigwyddodd dramor.
Developed by StudentB